Loading

Hamddena Straeon Sydyn - Problemau Penwythnos

hwyl
ymlaCio
cyffro
Rhyddid

Fy enw ydy Dafydd. Dw i'n un deg pump oed. Dw i'n byw ym Machen ger Caerffili yn Ne Cymru. Mae'r ardal yn iawn ond does dim llawer o bethau i bobl ifanc. Mae canolfan hamdden a chlwb rygbi yma ond does dim sinema na chanolfan bowlio yn agos. A bod yn onest, mae'r ardal yn ddiflas. Hefyd, mae'r ysgol yn ddiflas.

Ble mae Dafydd yn byw?

Dw i ddim yn hapus gyda'r ysgol. Pam? Does dim digon o amser 'da fi i hamddena ac ymlacio ar hyn o bryd. Mae gormod o waith ysgol ac adolygu am f'arholiadau TGAU. Dw i'n gweithio drwy'r amser ac mae'n mynd ar fy nerfau. Mae'r pwysau yn anferth. Dyna i gyd mae fy rhieni ac athrawon yn siarad amdano - adolygu a gwaith cartref.

Pam mae Dafydd yn anhapus?

Mae'n nos wener

"Mam! Dw i'n mynd allan."
"Ti di gorffen dy waith ysgol?"
"Fflipinec mam! Dyna gyd ti'n gofyn dyddiau hyn. Dw i wedi cael llond bol o'r ysgol a gwaith cartref a'r holl bwysau arholiadau. Dw i'n mynd allan!!"
"Dafydd! Daaaffffyyyyddd!" Gwaeddodd mam ar fy ôl.
Pam roedd Dafydd yn cweryla gyda'i fam?

Gwych. Roeddwn i mas or tŷ ac yn gallu anghofio am waith ysgol. Serch hyn, doeddwn i ddim yn teimlo'n hapus am gweryla gyda mam ac hefyd, doedd dim byd i wneud. Es i am dro i'r mynydd i ymlacio.

Breuddwydio

Y gwir ydy baswn i'n hoffi bod yn bell i ffwrdd. Hoffwn i fod ar wyliau tramor ecsotic fel Hawaii. Basai'r tywydd yn boeth a'r awyr yn las. Basai'r lle yn llawn cyffro gyda pobl yn gwenu'n hapus ac yn joio pob math o weithgareddau fel syrffio, hwylio, torheulo, dawnsio, siarad, asgell hwylio, sglefrfyrddio, nofio, neidio, chwerthin a sgïo jet lan a lawr yr arfordir

Ble fasai Dafydd yn hoffi bod?
"Dafydd!!!" gwaeddodd rhywun tu ôl i mi.

Des i nôl i'r mynydd mewn sioc.

"Stopiwch y ffŵl Gwirion!"

Wrth i mi ddod at fy hun, sylweddolais beth oedd yn bod. Roeddwn i un cam i ffwrdd o gerdded ar fagl cas. Roedd y magl mor cas, baswn i wedi colli fy nhroed. Lwcus iawn.

magl

Straeon sydyn

Problemau penwythnos

Hamddena

@BARRIMOC

Created By
Barri Mock
Appreciate

Credits:

Created with images by sidewalk flying - "More empty classroom stuff, UMBC" • philos from Athens - "beach fun" • frickfrackk - "Nate Ruess" • Aspen Snowmass - "Mountain Biking at Snowmass" • troy_williams - "SPG northside fun surf" • shirokazan - "Caerphilly Castle" • nikolys - "Unhappy boy" • nuzree - "moody sad lonely" • diblasio61 - "No baby was a dream...look...it 'all in color" • mcmay - "Hawaii big island-13" • stevendepolo - "Mouse trap"