Ar y penwythnos, dw i'n mwynhau defnyddio llawer o dechnoleg. Mae technoleg yn rhagorol. Dw i'n chwarae ar fy iPhone ac ar fy Xbox hefyd. Ar fy ffôn, dw i'n joio tecstio fy ffrindiau a mynd ar y wé a dw i'n dwlu ar chwarae gemau chwaraeon fel Fifa ar fy Xbox. Mae technoleg yn llawer o hwyl.
Dydd Sadwrn diwethaf
Roeddwn i'n chwarae gêm yn erbyn fy ffrind ar fore dydd Sadwrn pan glywais i lais mam.
"James! Wyt ti wedi tacluso dy 'stafell a rhoi dy ddillad yn y golchi eto?"
"Na mam! Dw i'n chwarae gêm ar y cyfrifiadur. Gwna fi fe wedyn."
Yr un hen stori bob penwythnos. Dw i moyn ymlacio a joio fy hun ac mae mam yn cwyno byth a hefyd am fy 'stafell a rhoi fy nillad yn y golch.
Dw i'n mynd i'r ysgol drwy'r wythnos gyda'r holl bwysau arholiadau ac asesu dan rheolaeth ac mae mam moyn i mi weithio drwy'r penwythnos. Boncyrs! Mae'n well 'da fi chwarae ar Fifa ac anghofio am gwaith ysgol, arholiadau a thacluso.
"James! Dw i wedi cael llond bol o hyn. Dyna gyd wyt ti'n 'neud ydy chwarae ar y blincin cyfrifiadur yna drwy'r dydd. Bobol bach! Brysia neu fydd dim arian poced i ti!"
"Wna i nawr ond ar ôl y gêm yma!"
Tair awr wedyn, dyma llais mam eto.
"James! Wyt ti wedi tacluso dy 'stafell a rhoi dy ddillad yn y golchi eto? Dw i 'di rhoi'r rhybudd olaf i ti."
"Reit! Dyna fe te! Dim arian poced i ti ..."
" ...a dw i'n troi'r WIFI i ffwrdd am wythnos!"
Straeon Sydyn
Problemau Penwythnos
Techoleg
@StMartins_Welsh
Credits:
Created with images by Mervi Eskelinen aka tasselflower - "technology" • tranmautritam - "smart phone iphone phone" • justinbaeder - "xbox360" • ncmichael2k3 - "Washing Clothes" • BagoGames - "FIFA 15 Won't Include Brazilian Clubs" • woodleywonderworks - "three rooms: daughter's bedroom," • spader - "shocked face"