Trafnidiaeth Rheilffyrdd a Cwpan Rygbi’r Byd Edrychodd Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar faterion trafnidiaeth o gwmpas wyth o gemau Cwpan Rybgi’r Byd a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.
Cefndir
Yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd 2015, cynhaliwyd wyth gêm yn Stadiwm Mileniwm Cymru. Cafwyd cwynion sylweddol gan gefnogwyr am y trefniadau teithio yn dilyn y tair gêm gyntaf yn benodol. Cafodd cefnogwyr drafferth teithio i Gaerdydd a bu’n rhaid i lawer aros hyd at bedair awr i adael y ddinas.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes a Menter wahodd amrywiaeth o randdeiliaid i ymchwiliad undydd a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2015 i archwilio’r modd y cafodd trafnidiaeth gyhoeddus ei chynllunio a’i darparu yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd ac i ystyried pa wersi y gellid eu dysgu wrth baratoi at ddigwyddiadau uchel eu proffil yn y dyfodol.
Yn benodol, roedd y Pwyllgor yn awyddus i ystyried:;
- y broses o gynllunio ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd
- yr adroddiadau a gafwyd am bobl yn sefyll mewn ciw am oriau a gwasanaethau trên gorlawn, gan gynnwys y rhesymau dros hynny a’u heffaith;
- pa mor addas ac effeithiol oedd y gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus mwy cyffredinol a ddarparwyd ar gyfer y digwyddiadau (er enghraifft bysiau a thacsis a’r seilwaith);
- pa mor effeithiol oedd y dulliau cyfathrebu a ddefnyddiwyd yn ystod y digwyddiadau;
- unrhyw bryderon ynglŷn â diogelwch y cyhoedd, neu bryderon eraill, a gododd oherwydd y modd y trefnwyd y digwyddiadau hyn ac unrhyw wersi y gellir eu dysgu wrth drefnu digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.;
Casglu tystiolaeth
Mae'r Pwyllgor yn ddiolchgar i'r rhanddeiliaid a ganlyn am ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor:
Ymddangosodd cynrychiolwyr England Rugby Ltd 2015, Heddlu De Cymru, Bysiau Caerdydd, Trenau Arriva Cymru, Great Western Railway, a Network Rail, yn ogystal â Chydffederasiwn Cludiant Teithwyr a Chyngor Caerdydd gerbron y Pwyllgor ar 5 Tachwedd 2015.
Ystyriodd y Pwyllgor hefyd yr adroddiadau yn y cyfryngau’n ymwneud â thrafnidiaeth yng Nghaerdydd yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.
Ffeithiau allweddol
- Daeth 564,524 o gefnogwyr i’r wyth gêm a gynhaliwyd yn Stadiwm y Mileniwm fel rhan o Gwpan Rygbi’r Byd.
- Gwyliodd 158,969 o gefnogwyr ychwanegol y gemau hyn yn safle’r cefnogwyr ym Mharc yr Arfau, Caerdydd.
- Roedd y patrwm presenoldeb yn wahanol iawn i bresenoldeb yng nghystadleuaeth y chwe gwlad neu gemau rygbi rhyngwladol cyfres yr hydref.
- O’r holl docynnau a werthwyd ar gyfer gemau Cymru, dim ond 25% aeth i godau post yng Nghymru .
- O’r holl docynnau a werthwyd ar gyfer y chwe gêm arall, dim ond 5% aeth i godau post yng Nghymru .
- O ganlyniad, roedd rhan fwyaf o’r rhai a oedd yn teithio ar drên yn teithio i ddwyrain Lloegr ar ôl y gemau.
- Yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, dim ond tri phlatfform sy’n gallu cymryd trenau sy’n teithio i’r dwyrain – i Gasnewydd, Bryste a Llundain.
- Mae’r ffaith bod Stadiwm y Mileniwm mor agos at Orsaf Caerdydd Canolog yn golygu mai ychydig o amser sydd i’r dyrfa wasgaru cyn iddynt gyrraedd yr orsaf i aros am eu trên.
Casgliadau
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth glir bod problemau sylweddol wedi codi yn ystod y tair gêm gyntaf a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, a bod y rhain wedi creu cryn rwystredigaeth i’r cefnogwyr a fu’n aros am gyfnodau hir cyn gallu dychwelyd adref.
Fodd bynnag, ychydig iawn o anhrefn gyhoeddus a welwyd, a llwyddwyd i gludo’r holl wylwyr – yn y pen draw – o’r ddinas ar ôl pob gêm.
Yn dilyn cyfarfodydd brys i ymdrin ag anfodlonrwydd y cefnogwyr yn ystod y ddwy gêm gyntaf, rhoddwyd cynllun newydd ar waith erbyn y drydedd gêm, a threfnwyd rhagor o fysiau. Ni wnaeth hyn fawr o wahaniaeth, fodd bynnag, oherwydd roedd yn anodd i’r cefnogwyr fynd ar y bysiau ychwanegol.
Gwnaed newidiadau amlycach erbyn y gemau eraill, gan gynnwys newid y system giwio, llwytho trenau’n gynt, a defnyddio’r holl fysiau ychwanegol. Gan hynny, bu modd gwacáu’r orsaf yn gyflymach o lawer.
Yn ôl sgôr boddhad cefnogwyr England Rugby 2015, trefnwyr Cwpan Rygbi’r Byd, ymddengys bod profiad teithio trwch y cefnogwyr yn ystod y pum gêm olaf yng Nghaerdydd wedi gwella gryn dipyn.
Cynlluniau teithio yn ystod digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd
O’r dystiolaeth a gawsom, oherwydd bod digwyddiadau’n cael eu cynnal mor aml yn Stadiwm y Mileniwm, ymddengys bod y rhai sy’n gyfrifol am gynllunio trafnidiaeth yng Nghaerdydd wedi llaesu eu dwylo rhywfaint. Fodd bynnag, mae’r sgoriau cadarnhaol a gafwyd yn dilyn y pum gêm olaf yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd pawb gydweithio.
Roeddem yn pryderu am y ffaith bod cynrychiolwyr Cyngor Caerdydd yn teimlo bod y cynllun wedi gweithio – o ran ymateb i'r her o ddarparu digon o gapasiti – er bod rhwystredigaeth y cefnogwyr yn amlwg, yn enwedig yn ystod y gemau cyntaf.
Clywsom dystiolaeth hefyd yn awgrymu na roddwyd digon o wybodaeth i deithwyr am y dewisiadau a oedd ar gael iddynt, yn enwedig o ran y trefniadau ciwio, ac o ran rhoi manylion am amseroedd trên etc ar ap a gwefan Cwpan Rygbi’r Byd.
Rydym yn credu bod lle i wella’r modd y cafodd y ciwiau eu cynllunio a’u rheoli, a’r modd roedd y teithwyr yn cael eu llwytho ar y trenau i sicrhau eu bod yn symud drwy’r orsaf i’r platfformau a’r trenau. Gwelwyd bod hyn wedi gwella pan gynhaliwyd gemau diweddarach Cwpan Rygbi’r Byd.
Rydym yn credu bod y penderfyniad i greu un pwynt rheoli integredig mewn un lle yn dilyn yr anawsterau cychwynnol wedi gwella’r system reoli ac y dylid efelychu’r model hwn yn y dyfodol.
Mae'r Pwyllgor yn pryderu y gallai’r gwaith adeiladu arfaethedig ar y Sgwâr Canolog effeithio ar ddigwyddiadau yn y Stadiwm yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.
Rydym yn croesawu digwyddiadau mawr fel ychwanegiad at fywyd y ddinas a gallant fod yn hwb diwylliannol ac economaidd i’r trigolion. Fodd bynnag, mae’n rhaid ystyried preswylwyr a busnesau’r ddinas wrth gynllunio digwyddiadau mawr i sicrhau nad ydynt yn amharu ar fywyd arferol yn dinas.
Argymhellion
Dylai'r holl randdeiliaid fynd ati ar fyrder i adolygu’r cynlluniau teithio ar gyfer digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd. Dylai hyn gynnwys camau i sicrhau bod un strwythur rheoli integredig ar gael.
Fel rhan o’r broses hon, dylid ystyried faint o amser y mae’n rhesymol disgwyl i gefnogwyr aros yn dilyn gêm. Yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd, dangoswyd y gellir gwella llif y dorf. Rhaid cymhwys’r gwersi a ddysgwyd am yr angen i wella dulliau o reoli ciwiau a’r modd y mae teithwyr yn symud drwy’r orsaf.
Mae cyfathrebu yn allweddol - rhaid i drefnwyr y digwyddiadau a’r cwmnïau trafnidiaeth wneud mwy o ymdrech i sicrhau bod y cefnogwyr yn cael rhagor o wybodaeth am y dewisiadau sydd ar gael iddynt ac am yr hyn y dylent ei ddisgwyl o ran ciwio.
Dylid rhoi lle mwy blaenllaw i fysiau mewn cynlluniau teithio, yn enwedig tra bydd cyfyngiadau yng Ngorsaf Caerdydd Canolog. Dylai hyn gynnwys defnyddio bysiau fel y prif ddull o deithio a hefyd fel cynllun wrth gefn i leihau’r pwysau yn yr orsaf.
Mae angen i'r grŵp cynllunio weithio gyda rhai sy'n ymwneud ag ailddatblygu’r Sgwâr Canolog i sicrhau bod y gwaith yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar drafnidiaeth y tu allan i'r orsaf pan gynhelir digwyddiadau mawr, ac y bydd cymaint o le â phosibl ar gael ac y caiff ei ddefnyddio mor effeithiol â phosibl.
Y seilwaith
Y broblem sylfaenol yng Nghaerdydd yw’r ffaith bod yr orsaf yn heneiddio a bod angen ei moderneiddio. Roedd gweithredwyr y trenau’n pwysleisio bod hyn yn broblem fawr iddynt.
Mae’r Pwyllgor yn teimlo’n gryf nad yw Gorsaf Ganolog Caerdydd, fel un o’r prif byrth i Gymru, yn diwallu anghenion a disgwyliadau teithwyr. Nid yw’n addas i’r diben erbyn hyn fel gorsaf sy’n croesawu ymwelwyr i brifddinas Ewropeaidd fodern. Ni all yr orsaf ymdopi â’r pwysau a roddir arni. Mae’n hanfodol ailddatblygu’r orsaf cyn gynted â phosibl er mwyn ymdopi â nifer gynyddol y teithwyr sy’n cyrraedd ac yn gadael. Rhaid rhoi blaenoriaeth frys i hyn.
Bydd y gwaith o ailddatblygu Gorsaf Caerdydd Canolog yn costio "dros £200-£300 miliwn" . Fodd bynnag, bydd y gystadleuaeth ar gyfer y rownd nesaf o welliannau i'r seilwaith rheilffyrdd yn ffyrnig, a gallai cefnogaeth wleidyddol fod yn hanfodol i sicrhau buddsoddiad mewn prosiectau yng Nghymru.
Mae arbenigwyr yn awgrymu y bydd capasiti'r cledrau o amgylch yr orsaf yn cynyddu drwy adnewyddu signalau ardal Caerdydd. Rydym yn ymwybodol y bu oedi yn y cyswllt hwn ond mae'n hanfodol i’r gwaith gael ei gwblhau cyn gynted â phosibl a sicrhau rhagor o fuddsoddiad yr un pryd.
Roedd yn amlwg mai un o'r ystyriaethau craidd ym maes cynllunio trafnidiaeth oedd na ddylid amharu ar wasanaethau rheolaidd – gan gynnwys gwasanaethau cludo nwyddau. Fodd bynnag, er mwyn gwella’r sefyllfa yn ystod y gemau terfynol, bu’n rhaid cyfaddawdu gan gynnwys ail-amserlennu gwasanaethau cludo nwyddau a gwasanaethau eraill i deithwyr.
Mae'r Pwyllgor yn credu y dylid ystyried a yw'n ymarferol parhau â’r polisi o beidio ag amharu ar wasanaethau nad ydynt yn ymwneud â’r digwyddiadau a gynhelir yn y ddinas a gwasanaethau cludo nwyddau. Mae’n amlwg y dylid ceisio amharu cyn lleied â phosibl ar y gwasanaethau hyn, ac rydym yn credu y gellid gwneud hynny drwy eu hystyried yn briodol wrth baratoi at gynnal digwyddiadau, a sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei throsglwyddo’n effeithiol, yn hytrach na rhoi newidiadau ar waith ar fyr rybudd.
Argymhellion
- Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Network Rail a'r Adran Drafnidiaeth i sicrhau bod arwyddocâd ac effaith ddifrifol y cyfyngiadau capasiti yng Ngorsaf Caerdydd Canolog yn hysbys a dylid ymgymryd â’r gwaith o gynyddu capasiti ar fyrder yn ystod Cyfnod 6 o’r rhaglen Rheoli Rheilffyrdd (2019-24).
- Rhaid i Network Rail sicrhau bod y system signalau’n cael ei hadnewyddu cyn gynted â phosibl.
- Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Network Rail a’r Adran Drafnidiaeth i ystyried sut y gellir gwella’r rhwydwaith i sicrhau y gellir parhau i gludo nwyddau a theithwyr nad ydynt yn teithio i ddigwyddiad mawr pan gynhelir digwyddiadau mawr yn y stadiwm. Credwn y gellid ystyried hyn wrth roi rhaglenni trydaneiddio ar waith a gellid hefyd ystyried cynnwys Gorsaf Heol y Frenhines, Caerdydd.
- Yn y cyfamser, dylai’r rhai sy’n gyfrifol am gynllunio digwyddiadau mawr gynnal trafodaethau â chwmnïau gweithredu trenau, gweithredwyr gwasanaethau cludo nwyddau a’u cwsmeriaid ynghylch a oes angen a/neu a fyddai’n ddymunol pan gynhelir digwyddiadau mawr yn Stadiwm y Mileniwm yn y dyfodol.
Rhagair y Cadeirydd
Roedd y Pwyllgor Menter a Busnes yn pryderu’n arw am yr anawsterau a gafodd cefnogwyr rygbi wrth iddynt deithio’n ôl ac ymlaen i gemau Cwpan Rygbi’r Byd yng Nghaerdydd ac am rai o’r adroddiadau a ymddangosodd yn y wasg yn y cyswllt hwn.
Mae’r digwyddiadau mawr a gynhelir yng Nghaerdydd yn rhoi cyfle i Gymru fanteisio’n economaidd a gwerthu ei hun i'r byd fel gwlad sy’n croesawu ymwelwyr a busnesau.
Rwy’n ddiolchgar i weithredwyr y gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau, Heddlu De Cymru, Cyngor Caerdydd ac England Rugby Ltd 2015 (trefnwyr Cwpan Rygbi'r Byd) am roi’r stori lawn am yr hyn a arweiniodd at y problemau trafnidiaeth yn ystod y tair gêm gyntaf a gynhaliwyd yng Nghaerdydd fel rhan o Gwpan Rygbi'r Byd, a sut y cafodd y problemau hyn eu datrys erbyn y pum gêm olaf a gynhaliwyd yn y brifddinas.
Mae'n amlwg i ni mai’r broblem, yn y bôn, yw seilwaith Gorsaf Caerdydd Canolog, sy’n mynd yn hen. Mae'n amlwg bod angen buddsoddi’n sylweddol yn yr orsaf i greu gorsaf sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac sy’n cwrdd â disgwyliadau teithwyr.
Er gwaethaf y feirniadaeth a glywsom, mae stori galonogol i'w hadrodd hefyd. Yn dilyn anawsterau difrifol yn ystod y tair gêm gyntaf, roedd y pum gêm derfynol a gynhaliwyd yn y stadiwm yn dangos ei bod yn bosibl trefnu i gefnogwyr adael yn gyflym heb orfod aros yn rhy hir am drafnidiaeth gyhoeddus. Rydym yn canmol y rhai a oedd ynghlwm wrth y trefniadau am weithio’n galed, o dan bwysau sylweddol, i ymateb i’r problemau cychwynnol. Rydym yn credu bellach fod y safon wedi codi ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, ac rydym yn annog pawb i barhau i weithio gyda'i gilydd i gynnal y safon honno.
Mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu bod disgwyliadau’r cefnogwyr a’r trefnwyr yn codi, ac os ydym am barhau i ddenu rhai o ddigwyddiadau mwyaf y byd, mae angen i ddinas Caerdydd godi ei dyheadau a pharhau i wella’i chynlluniau trafnidiaeth a’r modd y cânt eu rhoi ar waith.
Bydd Caerdydd yn croesawu gêm bêl-droed derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn 2017. O’r holl ddigwyddiadau blynyddol a gynhelir ym myd chwaraeon, mae hon yn denu mwy o wylwyr na’r un arall. Amcangyfrifir y bydd cynulleidfa o ryw 180 miliwn yn ei gwylio mewn dros 200 o wledydd. Mae’n hanfodol ein bod yn dysgu gwersi’n gyflym yn dilyn Cwpan Rygbi'r Byd ac yn rhoi newidiadau ar waith ar gyfer y gêm hon.
William Graham AC,
Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes.
Lluniau drwy gwrteisi: Walt Jabsco, Hannah Waldram, Arriva Trains Wales, Fred Aidroos