Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft Bil arfaethedig i ymestyn pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Ym mis Mai 2015, cwblhaodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Roedd yr ymchwiliad hwn yn dilyn galwadau gan Peter Tyndall, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus blaenorol Cymru ("yr Ombwdsmon"), a Nick Bennett, yr Ombwdsmon presennol, y dylai’r rôl gael ei chryfhau.

Roedd adroddiad y Pwyllgor yn gwneud 18 o argymhellion i wella a chryfhau rôl yr Ombwdsmon. Hefyd, lluniodd y Pwyllgor gipolwg cryno o’i ymchwiliad.

Roedd argymhellion y Pwyllgor i gryfhau rôl yr Ombwdsmon yn cynnwys:

  • pwerau i gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun;
  • disgresiwn llawn i’r Ombwdsmon benderfynu sut gall cwynion gael eu gwneud (fel cwynion llafar);
  • rôl ymdrin â chwynion statudol ar gyfer cyrff cyhoeddus; ac
  • ymestyn awdurdodaeth yr Ombwdsmon i’w alluogi i ymchwilio i gŵyn gyfan pan fydd cyfuniad o driniaethau wedi’u rhoi gan ddarparwyr gofal iechyd cyhoeddus a phreifat, a phan fydd y triniaethau wedi’u cychwyn yn y GIG.

Prif argymhelliad y Pwyllgor oedd y dylid cyflwyno Bil i’r Cynulliad Cenedlaethol i ymestyn rôl yr Ombwdsmon. Cyfraith ddrafft yw Bil. Ar ôl i’r Cynulliad ystyried a phasio Bil, ac ar ôl i’r Bil gael Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines, mae’n dod yn ‘Ddeddf Cynulliad.’

Ar hyn o bryd, mae’r Ombwdsmon yn gweithredu o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Mae’r Ddeddf hon yn nodi sut y mae rôl yr Ombwdsmon yn gweithio. Cytunodd y Pwyllgor y dylid cael Bil newydd a fyddai’n ailddeddfu llawer o Ddeddf 2005 ac a fyddai’n cynnwys yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor yn ei adroddiad ym mis Mai 2015.

Ymgynghorodd y Pwyllgor ar strwythur a chynnwys y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft, ac mae’r papur hwn yn crynhoi’r prif bryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad.

Pŵer i ymchwilio ar ei liwt ei hun

Mae’r pŵer hwn yn caniatáu i’r Ombwdsmon ymchwilio i fater pa un a yw’r Ombwdsmon wedi cael cwyn ai peidio.

Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yn cefnogi’r pŵer, ond dyma ychydig o bryderon a sylwadau a nodwyd:

  • gallai fod dryswch a dyblygu ymdrechion pe bai corff rheoleiddio arall, Comisiynydd neu Archwilydd Cyffredinol Cymru hefyd yn ymchwilio i’r mater;
  • dylai’r meini prawf ar gyfer ymchwilio ar ei liwt ei hun gynnwys materion er budd y cyhoedd ac a allai arwain at welliant ehangach ar draws gwasanaeth penodol.
“…own initiative investigations should only be undertaken where they will add value and provide specific benefit which should be determined at the outset of the investigation." Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Mae’r Pwyllgor o’r farn y gallai rhoi manylion ar wyneb y Bil am y meini prawf a’r dystiolaeth a fyddai’n ofynnol cyn y gallai’r Ombwdsmon gynnal ymchwiliad ar ei liwt ei hun gyfyngu ar allu’r Ombwdsmon i weithredu’n effeithiol. Felly, dylai’r Ombwdsmon gael defnyddio ei ddisgresiwn, gyda gofyniad arno i gyhoeddi’r meini prawf hyn. Cytunodd y Pwyllgor i wneud rhai newidiadau i destun y Bil, gan gynnwys;

  • rhoi pŵer i’r Ombwdsmon weithio gyda rheoleiddwyr (fel Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru) a’r holl gomisiynwyr ac ymgynghorwyr statudol a gaiff eu creu yn y dyfodol gan Ddeddfau’r Cynulliad, i ddiogelu’r ddeddfwriaeth ar gyfer y dyfodol ac i sicrhau cysondeb;

Ymdrin â chwynion ar draws y gwasanaethau cyhoeddus

Mae hyn yn galluogi’r Ombwdsmon i gyhoeddi gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynion ("gweithdrefnau enghreifftiol") ar gyfer awdurdodau rhestredig.

Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yn fodlon ar y darpariaethau ymdrin â chwynion yn y Bil, ac roeddent yn teimlo y byddai’n gwneud y canlynol:

“drive forward quality complaint-handling and data collection at the service provider level”. Prifysgol Sheffield

Teimlai Archwilydd Cyffredinol Cymru fod y darpariaethau, fel y’u drafftiwyd yn y Bil, yn briodol i roi digon o bwerau i’r Ombwdsmon sicrhau bod cwynion yn cael eu trin yn gyson ac yn deg ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

“The Government welcomes the provisions around model complaints-handling procedures (“model CHP”) for listed autohorities.” Llywodraeth Cymru

Nododd y Pwyllgor yr ymatebion cadarnhaol, ac felly roedd yn fodlon ar y Bil fel y’i drafftiwyd.

Ymchwilio i wasanaethau iechyd preifat

Mae hwn yn caniatáu i’r Ombwdsmon ymchwilio i ddarparwyr gofal iechyd preifat pan fydd cyfuniad o driniaethau wedi’u rhoi gan ddarparwyr gofal iechyd cyhoeddus a phreifat a phan fydd y triniaethau wedi’u cychwyn yn y GIG.

Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yn cefnogi’r darpariaethau fel y’u drafftiwyd yn y Bil drafft, a fyddai’n caniatáu i’r Ombwdsmon gael ei arwain gan y dinesydd yn hytrach na chan y gwasanaeth.

"... it will achieve greater equality of opportunity for investigation and possible redress for the range of mechanisms by which Healthcare may be funded." Cyngor Gofal Cymru

Cytunodd y Pwyllgor i ehangu’r diffiniad o "wasanaethau iechyd preifat" yn y Bil drafft i gynnwys triniaeth feddygol a gofal nyrsio.

Teimlai’r Pwyllgor hefyd y dylai’r Ombwdsmon fod yn gallu adennill y costau sy’n gysylltiedig ag ymchwilio i ddarparwyr gofal iechyd preifat pan fydd y darparwr wedi rhwystro ymchwiliad yr Ombwdsmon, ac ni ddylai’r trethdalwr orfod talu’r gost hon. Mae hyn wedi cael ei adlewyrchu yn y Bil.

Awdurdodau rhestredig

Mae Atodlen 3 yn y Bil drafft yn rhestru’r personau y gall yr Ombwdsmon ymchwilio iddynt. Ar hyn o bryd, mae’r rhestr hon yn cynnwys y rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru (fel y GIG, awdurdodau lleol a’r Parciau Cenedlaethol). Fodd bynnag, wrth i newidiadau gael eu gwneud i’r setliad datganoli yng Nghymru, bydd hyn yn arwain at gynnwys meysydd newydd o fewn awdurdodaeth yr Ombwdsmon.

Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yn fodlon ar y cyfyngiadau ar y pŵer i ddiwygio Atodlen 3.

"... the restrictions as drafted appear clear and proportionate compared to the 2005 Act." Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
“Schedule 3 “Listed Authorities” should anyway be kept under review to reflect evolving circumstance." Cyngor Cymuned Maerun

Cytunodd y Pwyllgor y dylai’r cyrff canlynol gael eu cynnwys ar wyneb y Bil:

  • Bwrdd Cadwraethwyr Coity Walia;
  • Awdurdodau harbwr;
  • Awdurdodau porthladdoedd;
  • Cymwysterau Cymru;
  • Bwrdd Cadwraethwyr Towyn Trewan;
  • Swyddfa Archwilio Cymru;
  • Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru;
  • Awdurdod Cyllid Cymru.

Cyfnod Anghymhwyso

Mae’r Bil drafft yn darparu bod person sydd wedi peidio â dal swydd Ombwdsmon neu swydd Ombwdsmon dros dro wedi’i anghymhwyso o restr o rolau am gyfnod o ddwy flynedd. Mae Deddf 2005 yn nodi bod hyn am gyfnod o dair blynedd.

Roedd ymatebwyr â barn gymysg ynghylch y cwestiwn a oedd y cyfnod anghymhwyso o ddwy flynedd yn y Bil drafft yn briodol.

“…the two year period of disqualification for both the Ombudsman and Acting Ombudsman is excessive, disproportionate and unnecessary.” Ombwdsmon Gogledd Iwerddon

Cyn gwneud penderfyniad ar y mater hwn, trafododd y Pwyllgor y cyfnodau anghymwyso ar gyfer Ombwdsmyn mewn awdurdodaethau eraill a swyddfeydd cyhoeddus amrywiol yng Nghymru. Mae’r Pwyllgor o’r farn y dylai’r cyfnod fod yn gyson â chyfnodau’r Ombwdsmyn yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, o ran bod y cyfnod anghymhwyso yn para tan ddiwedd y flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn ariannol y peidiodd yr Ombwdsmon â bod yn y swydd. Mae hyn wedi cael ei adlewyrchu yn y Bil drafft.

Gofal cymdeithasol a gofal lliniarol

Mae Deddf 2005 yn darparu trefn annibynnol ar gyfer ymchwiliadau sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol a gofal lliniarol. Mae’r awdurdodaeth wedi’i hymestyn drwy ddiwygiadau a fewnosodwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Gofynnodd y Pwyllgor i’r rhai yr ymgynghorwyd â hwy am eu barn ynghylch a ddylai’r drefn ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal lliniarol barhau’n drefn annibynnol, neu a ddylai ddod o fewn y drefn ymchwiliadau ‘prif ffrwd’. Roedd y mwyafrif helaeth o’r ymatebwyr o’r farn y dylid ei gynnwys yn yr ymchwiliadau prif ffrwd.

"... Part 4 should be brought within Part 3 to ensure consistency and clarity." Cyngor Sir Ceredigion

Er gwaetha’r ffaith bod y mwyafrif o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn gryf o blaid dod â gofal cymdeithasol a gofal lliniarol i mewn i’r broses ymchwiliadau prif ffrwd, ar ôl trafodaeth bellach, penderfynodd y Pwyllgor gadw gofal cymdeithasol a gofal lliniarol fel trefn annibynnol. Y rheswm am hyn yw natur benodol gofal cymdeithasol a gofal lliniarol, a’r ffaith y byddai uno’r ddwy drefn yn creu un drefn gymhleth ac astrus iawn. Felly, mae’r Pwyllgor wedi cadw dwy drefn ymchwiliadau glir, ar wahân.

Y Gymraeg

Nododd Comisiynydd y Gymraeg nad oedd y Bil yn gosod unrhyw ofynion o ran y Gymraeg ar yr Ombwdsmon

"Ar hyn 0 bryd, nid yw'n eglur pa ddyletswyddau sydd ar yr Ombwdsmon i gynnig gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai'r Comisiynydd yn croesawu pe bai'r Pwyllgor yn gosod dyletswyddau penodol ar yr Ombwdsmon mewn cyswllt â'r defnydd o'r Gymraeg yn y Bil drafft." Comisiynydd y Gymraeg

Cytunodd y Pwyllgor y dylai fod gan yr Ombwdsmon Gynllun Iaith Gymraeg ac y dylid ei gyhoeddi.

Gwerthusiad o ddeddfwriaeth ar ôl cychwyn

Gofynnwyd i ymgyngoreion roi sylwadau ynghylch pryd y dylid gwerthuso effaith y ddeddfwriaeth. Cafwyd barn gymysg ar y mater hwn, gyda’r rhan fwyaf o ymatebwyr yn awgrymu cyfnodau o rhwng tair a phum mlynedd. Cydnabuwyd, er mwyn gwerthuso effeithiau ei ymchwiliadau ar ei liwt ei hun a’r polisi cwynion enghreifftiol yn effeithiol, fod yr amserlen hon yn rhesymol.

“…the legislation should not be reviewed sooner than three years, nor later than seven years after its coming into effect.” Prifysgol Lerpwl

Roedd y Pwyllgor o’r farn bod pum mlynedd yn rhoi amserlen briodol, ac mae wedi cynnwys hyn yn y Bil drafft.

Casgliad

"Dechreuwyd ar ein gwaith pwysig o ystyried rôl a phwerau’r Ombwdsmon ym mis Ionawr 2015.

Yn ystod yr amser hwn clywsom am rôl hanfodol yr Ombwdsmon yn sicrhau bod unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n credu eu bod wedi dioddef anghyfiawnder drwy gamweinyddu neu fethiant gwasanaeth gan gorff cyhoeddus, yn gallu gwneud cwyn gyda’r sicrwydd y bydd yr ombwdsmon yn trin eu cwyn yn deg ac yn annibynnol.

Mae’r Pwyllgor wedi’i ddarbwyllo gan y dystiolaeth a ddaeth i law y dylai pwerau’r Ombwdsmon gael eu diwygio. Roeddem am i rôl yr Ombwdsmon gael ei llywodraethu gan ddeddfwriaeth Gymreig, a’n nod oedd creu un darn o ddeddfwriaeth ddwyieithog a oedd yn ei diogelu ar gyfer y dyfodol ac yn canolbwyntio’n wirioneddol ar y dinesydd.

Datblygwyd y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft ac ymgynghorwyd yn ei gylch, ac roeddem yn hapus iawn gyda’r ymateb a’r gefnogaeth a gafwyd gan ymatebwyr. Rydym yn mawr obeithio y gellir bwrw ymlaen â’r Bil drafft hwn ac y caiff ei gyflwyno gan bwyllgor y Cynulliad yn y Pumed Cynulliad.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ein gwaith ar bwerau’r Ombwdsmon; mae eich cyfraniad wedi bod yn arbennig o werthfawr."

Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Made with Adobe Slate

Make your words and images move.

Get Slate

Report Abuse

If you feel that this video content violates the Adobe Terms of Use, you may report this content by filling out this quick form.

To report a Copyright Violation, please follow Section 17 in the Terms of Use.