Loading

Syrffio Ffeithlen Diddordebau

Gareth Davies ydw i. Dw i wrth fy modd yn syrffio. Mae syrffio'n gyffrous iawn ac yn iachus hefyd. Fel arfer, dw i'n syrffio bob penwythnos ym Mhorthcawl gyda fy ffrind James.

peryglus

Mae syrffio yn gyffrous ond mae'n gallu bod yn beryglus iawn. Dw i wedi brifo fy hunan yn syrffio. Unwaith roedd y bwrdd syrffio wedi bwrw fy mhen yn gas. Roedd rhaid i mi fynd i'r ysbyty a gorffwys o syrffio am fis. Dywedodd fy nhad fy mod i'n lwcus iawn. Erbyn hyn, dw i'n iawn ac yn syrffio'n well nag erioed.

gwefreiddiol

Penwythnos diwethaf, es i syrffio ar ddydd Sadwrn. Roedd y tonnau yn berffaith ac yn fawr. Roedd reidio ar y tonnau yn wefreiddiol a ches i sesiwn anhygoel. Gwnes i lawer o driciau cyffrous a chaled. Ar ôl pump awr yn y môr, roeddwn i wedi blino'n lân. Cafodd John sesiwn arbennig hefyd. Roeddem ni'n hapus iawn.

cymuned

Un o fy hoff bethau am syrffio ydy'r gymuned. Mae syrffio yn apelio at bawb ac dw i wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd ar y traeth ac yn y môr. Mae pawb yn helpgar iawn ac yn gyfeillgar. Dw i wrth fy modd yn siarad am syrffio gyda pawb ac mae llawer o gylchgronnau, fideos a phosteri gyda fi. Hefyd, dw i'n dwlu ar y ffasiwn a'r bywyd tu allan ond mae'n gallu bod yn ddrud iawn.

byrddau

Mae llawer o fyrddau gwahanol gyda fi. Fy hoff fwrdd ydy fy mwrdd byr Spider. Mae'n 6 troedfedd ac yn gwyn a glas. Prynais i'r bwrdd ym Mhenfro yn ystod yr haf. Costiodd y bwrdd tri chant punt ond mae'n werth bob ceiniog achos mae'n gyffrous ac yn gyflym iawn.

tonnau

Dw i'n dwlu ar syrffio achos mae'n wefreiddiol yn y tonnau mawr ac dw i wrth fy modd yn syrffio a gwneud triciau. Baswn i'n hoffi cystadlu ar lwyfan y byd a dangos i bawb bod syrffio yn anhygoel.

Ffeithlen Sydyn

gan @BarriMoc

Credits:

Created with images by Jeda Villa Bali - "Surfing Bali" • 422737 - "surfing surf surfboard" • PatC - "surf board sea" • Jeff Rowley Big Wave Surfer - "Jeff Rowley Big Wave Surfer Jaws line up 2 Peahi Maui by Xvolution Media"