Loading

Drilio Bara menyn dysgu a chaffael iaith yn y dosbarth L2

Amcanion

Yn fras iawn, pwrpas yr erthygl hon yw i gofnodi nifer o syniadau gwahanol am wahanol mathau o ddril sy'n addas am y dosbarth L2. Mae'r erthygl wedi ei rhannu i'r gwahanol mathau o ddrilio gwn i amdano ac adran sy'n cynnwys ymarferion sy'n cyfuno un neu fwy o'r dulliau. Am esboniad llawn o'r mathau o ddril a phwyntiau ehangach i gysidro, gweler y linc isod at flognod yn trafod y dull.

Rhan 1

Dril Ail-adrodd - Dyma'r dril symlaf oll. Dyma lle mae'r athro/awes yn dweud gair neu batrwm a naill ai'r dosbarth, grwpiau neu unigolion yn ail-ddweud.

-Ynganu cywir

-Cyflymder cof

-Adnabod geiriau amledd uchel a phatrymau sylfaenol

-Datblygu sgiliau gwrando

1.1: Athro/awes yn dweud gair neu batrwm brawddeg yn L2. Pawb yn ail-adrodd fel grŵp.
1.2: Athro/awes yn dweud gair neu batrwm yn L2. Dewis grŵpiau gwahanol i ail- adrodd - bechgyn, merched, gwallt brown, llygaid glas, oedran, hoffi pêl-droed ayyb
1.3: Athro/awes yn dweud gair neu batrwm yn L2. Pwyntio at ddisgybl, galw enw neu taflu pêl ac unigolyn yn ail-ddweud.
1.4: Athro/awes yn amrywio goslef, cyflymder, tôn, deinameg ac acen yn dweud y gair neu batrwm L2 a grŵpiau neu unigolion yn ail-ddweud gan dilyn ynganiad yr athro/awes. Yn debyg i galw ac ateb.
1.5: Athro/awes yn torri'r geiriau neu batrwm i lawr i sillaf neu ymadrodd gan adeiladu at y gair/patrwm cyfan. Canolbwyntio ar synnau caled i ynganu i godi hyder a chywirdeb.
1.6: Disgybl i ysgrifennu yn defnyddio bys ar fraich neu cefn disgybl arall a'r disgybl yn dweud y gair yn uchel.

Rhan 2

Dril Disodli - Yn y dril yma, mae'r disgybl yn ymateb i symbyliad fel cwestiwn ac yn cynhyrchu brawddeg lle maen nhw'n newid un elfen o'r patrwm. Gall fod yn ansoddair, enw, cysylltair neu unrhyw elfen o bod yn onest.

-Hyfedredd gyda phatrymau sylfaenol

-Datblygu geirfa ehangach

-Adnabod trefn geiriau

-Datblygu sgiliau gwrando

2.1: Athro/awes yn gofyn cwestiwn gan ganolbwyntio ar batrwm penodol, megis "Beth wyt ti'n hoffi?". Yn dilyn ymarfer y patrwm a geirfa yn defnyddio dril ail-adrodd, disgyblion yn ateb gan dilyn y patrwm ond newid elfen, megis "Dw i'n hoffi ..."
2.2: Defnyddio cysylltair penodol fel "gyda" ac amrywio'r gwybodaeth ... ffrindiau, fy mrawd, fy mam, fy nheulu, fy nhad, tîm yr ysgol ayyb
2.3: Defnyddio lluniau neu cardiau fflach i ddisodli'r geirfa yn y patrwm. Bydd hyn yn gweithio'n dda gyda amser, arian, dyddiadau neu enwau/berfau yn dibynnu ar y nod.
2.4: Wrth addysgu/ymarfer rhestr penodol o eirfa, ail-adrodd y patrwm ond rhaid disodli gyda'r gair nesaf ar y rhestr mewn trefn penodol. Dros amser, gellir datblygu'r dril fel nad yw'r disgyblion yn gallu gweld y rhestr.

Rhan 3

-Adnabod elfennau brawddeg

-Datblygu ymwybyddiaeth o elfennau patrymau

-Datblygu sgiliau gwrando ac ymateb

-Cynyddu ymwybyddiaeth a deallusrwydd o ystod o batrymau, cwestiynau ac amser y ferf

3.1: Dosbarth gyfan. Disgybl yn dweud gair i ddechrau brawddeg fel "Dw i'n" a'r disgybl nesaf yn dweud gair addas i ddatblygu brawddeg. Mae'r cadwyn yn parhau nes bod disgybl yn galw "atalnod llawn" a dechrau brawddeg newydd.
3.2: Rhestr o eirfa am bwnc penodol neu amrywiaeth o ansoddeiriau, berfau neu gysyllteiriau. Symud o un disgybl i'r llall yn dweud y gair nesaf ar y rhestr.
3.3: Disgyblion yn gweithio mewn grwpiau o bedwar ac yn eistedd yn wynebu'r canol. Un disgybl yn sefyll ac yn dweud gair cyntaf patrwm ac yn eistedd. Disgybl nesaf yn codi, dweud y gair cyntaf y disgbl blaenorol ac ychwanegu'r gair nesaf ac ymlaen fel hyn nes gorffen y patrwm ac ail-ddechrau.
3.4: Disgyblion yn gweithio mewn grwpiau o bedwar neu fwy ac yn eistedd yn wynebu'r canol. Un disgybl yn sefyll ac y holi cwestiwn penodol. Disgybl nesaf yn sefyll gan ateb y cwestiwn a holi'r un cwestiwn neu cwestiwn newydd ac ymlaen fel hyn.
3.5: PING PONG - Disgyblion yn gweithio mewn parau. Ffocws un cwestiwn neu gyfres o gwestiynau. Disbybl yn holi a'r partner yn ymateb ac ymlaen fel hyn nes bod camgymeriad neu oedi a dechrau eto.
3.6: GWLYCHU - Disgyblion yn gweithio fel dosbarth ac i gyd yn wynebu'r canol. Un disgybl yn pwyntio (Dryll Dwr) ac yn holi'r cwestiwn ffocws (Gwlychu). Y disgybl hwnnw yn ymateb a gwlychu rhywun arall. Os oes oedi neu cham-ynganu, rhaid i'r disgybl eistedd gan fod nhw allan. Ymlaen fel hyn nes bod dau yn weddill a wedyn PING PONG i ennill.
3.7: Rhowch rhestr o eiriau amrywiol ar y bwrdd. Gellir dasbarthu i enwau, berfau, ansoddeiriau, cysyllteiriau os dymunir. Mewn grwpiau o 4, rhaid i'r disgybl cynhyrchu brawddeg yn defnyddio gair o'r rhestr. Rhaid i'r disbyl nesaf ail-ddweud y brawddeg ac ychwanegu un arall o'r rhestr. Parhau fel hyn nes defnyddio'r geiriau i gyd. Gelir datblygu hyn ymhellach trwy gofyn am frawddegau cysylltiedig, negyddol, gorffennol ac ati.

Rhan 4

Dril Trawsnewid - Yn y dril yma, mae rhaid i'r disgybl gwrando ar symbyliad a wedyn trawsnewid i rhywbeth arall yn dilyn rheol gramadegol. Basai cyflwyno brawddeg positif a disgwyl i'r disgybl troi i'r negyddol yn enghraifft o ddril trawsnewid.

-Datblygu sgiliau gwrando

-Datblygu amrywio amser a pherson y ferf

-Datblygu ffurfiau cadarnhaol, negyddol ac ofynnol

-Creu effeithiau a bod yn ymwybodol o dechnegau iaith

4.1: Dechrau gyda disgybl yn dweud person cyntaf mewn rhediad amser berf. Rhaid i'r disgybl nesaf trawsnewid i'r negyddol.
4.2: Athro/awes yn dweud brawddeg yn y person cyntaf a'r disgybl yn ei trawnewid i'r trydydd person.
4.3: Geiriau unigol i lluosog/lluosog i unigol. Cyflwyno ffurf a'r disgybl yn ateb yn briodol.
4.4: Treigladau - cyflwyno gair a'r digybl yn dweud y gair gyda'r treiglad ffocws yn defnyddio rhagenw neu chysylltair addas.
4.5: Amser gorffennol - rhoi rhestr o ferfau neu luniau'n cyfleu berfau ar ffurf cardiau fflach a'r disgybl yn gorfod dweud y ferf yn y ffurf gorffennol. Gellir dechrau gyda'r afreolaidd, wedyn datblygu'r rheolaidd a wedyn cymysgu wrth ddatblygu. Bydd y dril yma yn gweithio gyda unrhyw ffurfiau cryno.
4.6: Cymharu ansoddeiriau - gweithio ar modd penodol a rhoi ansoddair i'r disgybl. Mae'r sigybl yn gorfod dweud yr ymadrodd yn y modd perthnasol. EG da>y gorau drwg>y gwaethaf hapus>yn hapusach na ac ati

Rhan 5

5.1: Disgybl yn dechrau gyda ffurf amser berf. "Dw i'n hoffi dawnsio". Disgybl nesaf yn newid i'r ail-berson a disodli gair. "Rwyt ti'n hoffi criced." ayyb
5.2: PING PONG - Un batrwm neu gwestiwn. Un disgybl yn dweud a'r llall yn ail-ddweud ac ymlaen nes bod oedi neu cam-ynganiad.
5.3: TPR - Pan yn ddrilio rhestr o eirfa megis gweithgareddau neu ansoddeiriau, rhaid dweud y gair wrth actio ystum arbennig i'r gair. Mae modd datblygu driliau gwahanol trwy defnyddio ystum i ddisodli neu cadwyn trwy gwneud ystum a'r disgybl nesaf yn dweud y gair a rhoi ystum newydd

Gan Mr B. Mock

Created By
Barrington Mock
Appreciate

Credits:

Created with images by RLFilipkowski - "0117" • woodleywonderworks - "Duplicate Original" • sylvar - "Yup, it was time to replace those crutch tips." • PublicDomainPictures - "fence chain link" • fdecomite - "Doyle spiral + Mobius transform"