Fy hobi ydy rhedeg.
Dw i'n rhedeg bob wythnos. Dw i'n rhedeg gyda ffrindiau yn y parc. Dw i'n mwynhau rhedeg achos mae'n iachus ac yn llawer o hwyl. Mae rhedeg yn bwysig i mi.
Wythnos diwethaf
Wythnos diwethaf, rhedais i ddeg cilomedr. Rhedais i o gwmpas yr ardal gyda fy ffrind, Gareth. Rhedon ni am awr. Roeddwn i wedi blino ar ôl rhedeg ond roeddwn i'n teimlo'n hapus. Mae rhedeg yn gyffrous.
Wythnos nesaf
Wythnos nesaf, hoffwn i rhedeg hanner marathon. Bydd yr hanner marathon yng Nghaerdydd. Bydd tua dwy fil o redwyr. Bydd yn arbennig iawn. Bydda i'n codi arian am elusen Cancer Research. Dw i'n gobeithio bydda i'n gorffen y ras yn dda a chodi llawer o arian at achos da.
Mae rhedeg yn bwysig i mi achos mae'n ffordd arbennig o gadw'n heini.
gan @BarriMoc
Credits:
Created with images by mikebaird - "Amity Hall running in the Inaugural Morro Bay Triathlon 06 June 2010, swim, bike, beach run." • esbjorn2 - "running man" • Kekka - "Running" • Ludovic Rouchy Photography - "Running impression" • swong95765 - "Girl Running" • Photoxander1 - "Running the Rainbow" • annabeswick - "Cardiff Half Marathon 2014" • espinr - "Subida al Naranco 2006" • jetheriot - "smiley face stress ball" • annabeswick - "Cardiff Half Marathon 2014" • dumbledad - "The Cambridge Cancer Research 10K 2009"