Loading

TRIP I'R SINEMA Cyfres Straeon Sydyn

trip i'r sinema

Roeddwn i'n teimlo'n gyffrous iawn. Pam? Achos roedd hi'n nos Sadwrn ac roeddwn i'n mynd ar drip i'r sinema gyda fy ffrindiau. Am hanner awr wedi chwech, daeth tecst ar fy ffôn yn dweud bod y giang y tu allan yn barod i fynd. Gwisgais i fy siaced a gafael yn fy mhwrs ac es i am y ddrws.

"Tra Mam! Dw i'n mynd. Wela i di heno!"

"Iawn cariad. Paid â bod yn hwyr a ffonia os oes problem. Ydy dy ffôn 'da ti?"

"Ydy Mam. Paid â phoeni. Bydda i adre cyn un ar ddeg achos dyna ydy amser y bws olaf. Tra!"

allan

Roedd y giang yn aros amdana i ar y gornel ac i ffwrdd â ni. Heno, roedd Claire, Sioned, Chloe a finnai yn mynd i'r sinema i wylio'r blocbyster newydd.

"Dych chi'n edrych ymlaen at wylio'r ffilm ferched?" gofynais i.

Atebodd Sioned yn gyntaf, "Edrych ymlaen! Dw i methu aros! Dw i'n teimlo mor gyffrous dw i angen y toiled eto."

"Paid â bod yn dwp Sioned. Dim ond ffilm ydy hi. Pryd est ti i'r sinema diwetha? Mae'n swnio fel dwyt ti ddim wedi bod allan ers misoedd," gofynnodd Chloe.

"Fel mae'n digwydd, Chlo, dw i heb fod allan am flwyddyn. Mae fy mam wedi bod yn dost yn yr ysbyty ac roedd rhaid i mi helpu dad. Dyna pam dw i mor blincin cyffrous am heno. Ffilm yn y sinema gyda fy ffrindiau - nefoedd."

"Sori Sioned. Anghofiais am dy fam. Sut mae hi nawr?"

"Mae hi'n well nawr ac adref o'r diwedd. Diolch byth!"

ar y bws

Daeth y bws a dyna lle roedden ni'n cloncan am yr ysgol a bechgyn fel arfer. Roedd pawb yn joio ac yn chwerthin yn hapus.

Yn sydyn, clywon ni swn injan dân a'i goleuadau yn fflachio ...

injan dân

Stopiodd y bws i adael yr injan heibio a fflachiodd ymlaen fel seren wib.

"Tybed be sy wedi digwydd?" gofynodd Claire.

"Wn i ddim!" atebais i mewn sioc.

Cychwynnodd y bws a ffwrdd â ni eto tua'r sinema. Yn anffodus, roedd y traffig wedi mynd yn drwm ac roedden ni'n symud yn araf hyd nes gorfod stopio eto. Wrth edrych allan o'r ffenestr, roedd golau oren a mwg yn codi o'n blaenau.

Yn sydyn, daeth cnoc enfawr ar y ffenestr a gwelais i wyneb gwelw rhyw fachgen. Roedd e'n gweiddi rhwybeth yn orwyllt ond doeddwn i ddim yn gallu clywed! Yna diflannod yr un mor gyflym. Cododd ofn arni i ac edrychais ar y merched ac roedden nhw'n edrych yr un mor ofnus â fi.

ofn

"Rhaid bod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd!" dywedodd Sioned.

"Ond pam roedd y bachgen yn cnocio'r ffenest mor wyllt? ... A beth oedd e'n ceisio dweud?" gofynais i.

Cliriodd y traffig a dechreuodd y bws symud unwaith eto. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl. Symudon ni ymlaen ond i gyd mewn tawelwch llwyr gan edrych tua'r golau oren oedd yn tyfu o amgylch y bws.

fflamiau

Cyfres Straeon Sydyn

gan @BarriMoc

Created By
Barri Mock
Appreciate

Credits:

Created with images by Mupfel80 - "plate art popcorn" • Alexas_Fotos - "biker route 66 freedom" • br1dotcom - "Giorgia Surina - Vogue Fashion's Night Out Sept.10 2009 MILANO" • charlie cars - "New bus- MX13BBV Alexander Dennis Enviro 200, Wiltshire Buses, Warminster, 20/5/13" • PublicDomainPictures - "brigade british danger" • David-Karich - "man eyes portrait" • kummod - "fire wood fire flame"