Teithio Llesol DECHRAU'R DAITH

Rydym ni, Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi bod yn edrych a’r gweithrediad a chyflawni'r Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Beth yw Teithio Llesol?

Mae "Teithio Llesol" yn golygu cerdded neu feicio i waith, i'r ysgol neu fannau eraill fel i'r feddygfa neu ganolfan hamdden.

Llun gan Elliott Brown (Flickr). Trwydded gan Creative Commons.

Cynigwyd y Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 gan Lywodraeth Cymru, a'i basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Hydref 2013.

Mae'r gyfraith yn mynnu bod awdurdodau lleol ledled Cymru yn gwella llwybrau a chyfleusterau i bobl sy'n cerdded a beicio.

Mae rhaid i awdurdodau lleol baratoi mapiau yn nodi'r llwybrau ac unrhyw lwybrau newydd yn eu hardaloedd lleol. Dylai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol sicrhau bod cynlluniau ffyrdd newydd hefyd yn ystyried anghenion pobl sy'n cerdded ac yn beicio.

Ein Hadroddiad

Drwy adolygu'r cynnydd a waned hyd yn hyn, rydym yn gallu sicrhau bod amcanion y Ddeddf yn cael eu cyflawni. Mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud hi'n haws i bobl teithio ar droed neu ar feic fel y gallwn annog ffordd iachach, ratach a mwy ecogyfeillgar o deithio yng Nghymru.

Rydym wedi cyflwyno nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru i ystyried. Gallwch ddarllen adroddiad llawn y Pwyllgor isod.

Ceir pedair prif themau ar gyfer ein hargymhellion:

  • Cyllid ac adnoddau;
  • Y broses fapio;
  • Hyrwyddo Teithio Llesol; ac
  • Arweinyddiaeth.

Cyllid ac adnoddau

Dywedodd sefydliadau wrthym nad oes gan rai awdurdodau lleol yr arian i wneud y newidiadau sydd eu hangen o dan y Ddeddf.

Dywedodd y sefydliadau bod rhaid dargyfeirio cyllid o ffyrdd i annog llai o ddibyniaeth ar geir.

Roedd y Pwyllgor yn falch bod Llywodraeth Cymru yn cynllunio i ddyrannu'r gwariant ar deithio llesol dros gyfnod o dair blynedd yn hytrach nag un.

Beic: Llun gan Sri Dhanush K (Flickr) Trwydded gan Creative Commons.

Ein hargymellion

Rydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru osod llinell benodol yn y gyllideb i gefnogi teithio llesol. Dylid defnyddio'r gyllideb teithio llesol i gefnogi prosiectau seilwaith teithio llesol a hyrwyddo teithio llesol fel ei gilydd.

Yn unol â'r argymhellion yn adroddiad annibynnol yr Athro Stuart Cole i'r Gweinidog ar deithio llesol, dylid adolygu lefel y cyllid ar gyfer teithio llesol.

Y Broses Fapio

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynhyrchu dau fap:

  • Un map o'r llwybrau presennol yn eu hardal (Mapiau Llwybrau Presennol); ac
  • Ail fap yn nodi sut y byddent yn hoffi gwella llwybrau (Mapiau Rhwydwaith Integredig).

Mae awdurdodau lleol yn cynhyrchu Mapiau Llwybrau Presennol sydd yn dangos yr holl lwybrau cerdded a beicio yn eu hardal. Rhaid wedyn cynhyrchu Mapiau Rhwydwaith Integredig sydd yn dangos sut y gallent wella'r llwybrau yn y dyfodol.

Llun gan Jeremy Segrott (Flickr). Trwydded gan Creative Commons.

Roedd pawb yn cytuno y dylid gwneud mwy i sicrhau bod y mapiau ar gael ae apiau fel Google Maps.

Ein hargymellion

Rydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gan y tîm trafnidiaeth ddigon o arbenigedd a chapasiti i wneud asesiad o'r Mapiau Llwybrau Presennol a'r Mapiau Rhwydwaith Integredig y mae awdurdodau lleol yn eu paratoi.

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i awdurdodau lleol ddatblygu eu Mapiau Rhwydwaith Integredig.

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y cyhoedd yn gallu cael gafael ar y wybodaeth y mae'n ei chadw yn ei system ganolog ar gyfer cofnodi data, yn enwedig i'w defnyddio mewn apiau mapio.

Hyrwyddo Teithio Llesol

Diben y Ddeddf yw newid ymddygiad.

Llun gan kdemerly (Flickr). Trwydded gan Creative Commons. Llun gyferbyn i'r dde gan Mooganic (Flickr). Trwydded gan Creative Commons.

Hoffai'r bobl buom yn siarad ag ac yn clywed tystiolaeth gan weld gweithredu cydgysylltiedig yn hytrach na'r dull mympwyol presennol.

Ein hargymelliad

Rydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gychwyn ymgyrch genedlaethol i hybu buddion teithio llesol.

Dylai'r ymgyrch gynnwys ffyrdd o geisio ennyn diddordeb pob rhan o gymdeithas Cymru, gan gynnwys grwpiau anodd eu cyrraedd.

Arweinyddiaeth

Mae pobl yn pryderu am ddiffyg arweinyddiaeth gan Lywodraeth Cymru o ran hyrwyddo'r agenda teithio llesol yng Nghymru.

Rydym wedi argymell eu bod yn gosod targedau mwy uchelgeisiol a gwneud gwell defnydd o arbenigedd y Bwrdd Teithio Llesol.

Sefydlwyd y Bwrdd Teithio Llesol i gydlynu gweithgaredd a helpu i weithredu'r Ddeddf. Mae'r Bwrdd yn cynnwys aelodau a sefydliadau sydd â diddordeb mewn teithio llesol.

Ein hargymelliad

Rydym yn meddwl y dylai'r Gweinidog ystyried y ffordd orau o ymgysylltu â'r Bwrdd Teithio Llesol a sicrhau ei fod yn rhoi'r Ddeddf ar waith yn effeithiol.

Llywodraeth Cymru

Dylai'r Cynllun Teithio Llesol gynnwys datganiad o uchelgais sy'n gosod targedau ar gyfer cynyddu nifer y teithiau cerdded a beicio yng Nghymru. Dylai hefyd ddangos sut y bydd pob un o adrannau Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo ac yn cefnogi teithio llesol.

William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes

Neges gan y Cadeirydd

"Mae angen i ni sicrhau bod y sylfeini cywir yn eu lle bellach, er mwyn symud tuag at ffordd iachach a mwy gwyrdd o deithio.
"Rydym yn gwybod bod arian bob amser yn brin felly o hyn ymlaen rhaid i Lywodraeth Cymru ddewis i flaenoriaethu teithio llesol dros foduro ac ailddyrannu gofod ffyrdd yn ogystal ag adnoddau i gefnogi’r nod hwn.
"Bydd hyn dim ond yn gweithio os byddent yn dangos hyder i weld drwy'r hyn y maent wedi dechrau gyda'r darn hwn o ddeddfwriaeth.

William Graham AC,

Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes.

Camau nesaf

Y rydym wedi cyflwyno ein hargymellion i Llywodraeth Cymru ystyried.

I dilyn ein gwaith, ewch i:

Neu ymweld â:

Made with Adobe Slate

Make your words and images move.

Get Slate

Report Abuse

If you feel that this video content violates the Adobe Terms of Use, you may report this content by filling out this quick form.

To report a Copyright Violation, please follow Section 17 in the Terms of Use.